Академический Документы
Профессиональный Документы
Культура Документы
Defnyddio’r Gymraeg
2004 - 2007
Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) yw teitl masnachu CBAC WJEC Cyfyngedig, elusen gofrestredig a
chwmni a gyfyngir gan warant ac a reolir gan awdurdodau lleol Cymru. Swyddfa Gofrestredig: 245 Rhodfa’r
Gorllewin, Caerdydd, CF5 2YX. Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr Rhif 3150875. Rhif elusen gofrestredig
1073332.
Manyleb Tystysgrif Sylfaen mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio’r Gymraeg
Crynodeb 3
Rhagymadrodd: 4-5
Cynnwys (Gwybodaeth a Sgiliau): 6-7
Sgiliau
Gwrando 8
Siarad 9 - 11
Darllen 12
Ysgrifennu 13
Cynlluniau Marcio
Crynodeb Asesu 18
Gwrando 19
Siarad 20 - 21
Darllen 22
Ysgrifennu 23
Papurau Enghreifftiol
Gwrando a Deall * 24 - 34
Prawf Llafar 35 - 38
Darllen a Deall a Llenwi Bylchau 39 - 47
Ysgrifennu 48 - 52
Mae llyfrynnau dwyieithog ar gael i ddarpar ymgeiswyr ar y lefel hon, yn cynnwys ffurflen gais
a manylion am ddyddiadau sefyll yr arholiad. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Lowri Morgan
Uned Iaith Genedlaethol Cymru
CBAC
245 Rhodfa’r Gorllewin
CAERDYDD
CF5 2YX
2
CBAC: Tystysgrif Sylfaen mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio’r Gymraeg
Crynodeb
Prawf Gwrando 20% Prawf Llafar 50% Prawf Darllen Prawf Ysgrifennu
a Llenwi Bylchau 15%
15%
3
RHAGYMADRODD
Nodau ac Amcanion
Cynigir arholiad Defnyddio’r Gymraeg: Sylfaen i ymgeiswyr sy’n dysgu’r Gymraeg fel ail iaith.
Mae’r arholiad yn benllanw astudio’r Gymraeg mewn dosbarthiadau ar gyrsiau darnynol (fel
arfer, ymhen dwy flynedd a dau dymor) neu gyrsiau dwys (fel arfer, blwyddyn a dau dymor)
neu wrth ddysgu’n annibynnol. Amcangyfrifir bod angen tua 160 o oriau cyswllt mewn
dosbarth i gyrraedd y safon hon, yn dibynnu ar yr ymgeisydd unigol, yn ogystal ag oriau
ychwanegol mewn ysgolion undydd, cyrsiau penwythnos a chyrsiau adolygu. Anogir
ymgeiswyr i geisio pob cyfle i ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r dosbarth hefyd, e.e. drwy
fynychu cyfarfodydd sgwrsio neu fanteisio ar gyfleon cymdeithasol eraill.1
Bydd yr arholiad hwn yn addas i ddechreuwyr sydd wedi ennill credydau Rhwydwaith y
Coleg Agored (Lefel 1) neu sydd wedi sefyll Defnyddio’r Gymraeg: Mynediad. Gall fod yn
addas i ymgeiswyr sydd wedi llwyddo yn y Dystysgrif Lefel Mynediad mewn Cymraeg Ail Iaith.
Gall y cymhwyster fod yn addas i ymgeiswyr sydd heb gymhwyster arall yn y Gymraeg, ond
sydd ar lefel gyfatebol - dylid ymgynghori â thiwtor profiadol ynglþn â hyn.
Bydd yn cymhwyso’r ymgeisydd i astudio ar gyfer Defnyddio’r Gymraeg: Canolradd. Gall hefyd
arwain at gymwysterau TGAU Haen Uwch (cwrs llawn a chwrs byr) neu’r Dyfarniad Canolradd
mewn Cymraeg Ail Iaith.
Mae Defnyddio’r Gymraeg: Sylfaen yn cynnig pwyslais gwahanol i gymwysterau eraill ar y lefel
hon. Rhoddir mwy o sylw i sgìl siarad a defnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol yn y
cymhwyster hwn, yn ogystal â sylw i gywirdeb manwl. Mae cysylltiad agos rhwng cynnwys y
profion a chyrsiau Cymraeg i Oedolion sy’n arwain at y lefel hon, ac yn atgyfnerthu’r
ddarpariaeth honno.
Rhydd y fanyleb hon arweiniad clir i gyflogwyr neu ddarpar gyflogwyr o sgiliau iaith
ymgeiswyr llwyddiannus Defnyddio’r Gymraeg: Sylfaen, e.e. bydd ymgeiswyr yn gallu cynnal
sgwrs syml am bethau pob dydd, yn y gwaith neu’n gymdeithasol, darllen Cymraeg mewn
cyd-destun cyfarwydd ac ysgrifennu Cymraeg at ddibenion penodol.
1
Amcangyfrifir bod angen tua 200 o oriau tybiannol ar gyfer cyrraedd y cymhwyster hwn (ar ôl cwblhau lefel
Mynediad)
2
Mae’r gyfatebiaeth hon i’w chadarnhau.
4
Y gynulleidfa darged
Mae’r cymhwyster hwn yn agored i ymgeiswyr sydd â’r Gymraeg yn ail iaith iddynt, waeth
beth fo’u rhyw, eu cefndir ethnig, crefyddol neu ddiwylliannol. Ar gyfer oedolion y bwriedir
y cymhwyster yn benodol ond gall fod yn addas i ymgeiswyr yn y categori 16 - 18 oed.
Rhoddir pwyslais ar ddefnydd cymdeithasol o’r iaith darged wrth baratoi ar gyfer y
cymhwyster hwn ac adlewyrchir hynny yn natur y profion a ddefnyddir, e.e. wrth holi’r
ymgeisydd, gall yr arholwr holi am gefndir cymdeithasol yr ymgeisydd.
Er na fydd digon o adnoddau ieithyddol i ymgeisydd drafod pynciau o’r natur hon i ddyfnder
yn yr iaith darged fel arfer, ceir cyfleon i ymgeiswyr roi sylw i faterion tebyg yn y Prawf Llafar
(gw. ‘Cyflwyno Pwnc’ yn y Papurau Enghreifftiol) neu yn y cyfnod addysgu, e.e. darllen rhan
o fwletin newyddion syml - ceir enghraifft yn Dosbarth Nos 21 - 38, Fersiwn y De, t.73.
Ni chaniateir i ymgeiswyr sefyll Dyfarniad Sylfaen mewn Cymraeg Ail Iaith, nac ychwaith TGAU
haen sylfaenol, (cwrs llawn a chwrs byr) mewn Cymraeg Ail Iaith yn yr un flwyddyn â’r
cymhwyster hwn. Ni chaniateir i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf neu sydd
wedi derbyn y rhan helaethaf o’u haddysg ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg sefyll yr arholiad
hwn, onid ydynt wedi gadael yr ysgol ers pum mlynedd neu fwy.
Ceisir sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael tegwch wrth sefyll yr arholiad hwn.
Mae manylion trefniadau ac ystyriaethau arbennig ar gyfer ymgeiswyr ag anghenion penodol
wedi eu cynnwys yn y ddogfen a baratowyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ):
Ymgeiswyr â Gofynion Penodol: Rheoliadau a Chyfarwyddyd.
5
Cynnwys: Gwybodaeth a Sgiliau
Mae rhagor o weithgareddau sy’n rhoi arweiniad i diwtoriaid sy’n paratoi ymgeiswyr i sefyll
yr arholiad hwn yn y llyfryn Pecyn Paratoi: Defnyddio’r Gymraeg: Sylfaen ar gael gan CBAC.3
Dylid nodi nad yw’r llyfrau cwrs yn dilyn yr un drefn o ran nodau nac yn cynnwys yr un
patrymau a geirfa’n union, ond mae cyfatebiaeth fras rhyngddynt. Mae’r ffurfiau a ddefnyddir
yn y llyfrau cwrs hyn yn adlewyrchu nodweddion tafodieithol ardaloedd De a Gogledd
Cymru a rhoddir manylion llawn am y ffurfiau hynny yn y llyfrau cwrs eu hunain. Bydd y
profion yn parchu’r prif dafodieithoedd ac yn rhoi’r ddwy ffurf lle bo hynny’n briodol, y naill
ar gyfer De Cymru a’r llall ar gyfer y Gogledd.
Dyma restr gyfair o nodau, ffwythiannau, nodweddion gramadegol a thestunau iaith y dylai
ymgeiswyr eu hymarfer wrth baratoi ar gyfer y profion. Wrth reswm, ni fydd pob nod yn
cael ei brofi’n uniongyrchol ym mhob prawf.
Estyn a dyfnhau’r nodau a gyflwynwyd wrth baratoi ar gyfer Defnyddio’r Gymraeg: Mynediad
(Dylid adolygu’r holl nodau a gyflwynwyd ar y lefel honno’n gyntaf)
• Estyn defnydd o’r gorffennol: holl bersonau mynd, cael, gwneud, dod; berfau rheolaidd
cyfarwydd;
• Estyn defnydd o’r dyfodol: dyfodol bod, dyfodol cryno mynd a’r berfau rheolaidd.
• Estyn defnydd o’r amherffaith: holl bersonau ‘bod’
• Defnyddio cwestiynau / cymalau gyda ‘sy’ yn y presennol
• Defnyddio brawddegau / cwestiynau amhenodol
• Trafod oedran, ffurfiau ‘blwyddyn’, trefnolion (i 10)
• Estyn geirfa ac ymadroddion defnyddiol (dylid cyfeirio at y llyfrau cwrs uchod am fanylion)
Nodau newydd
3
Mae llyfr cwrs newydd ar waith ar hyn o bryd: Cwrs Sylfaen a fydd yn cael ei gyhoeddi gan CBAC. Bydd hwn
yn arwain yn benodol at y cymhwyster DG: Sylfaen.
6
• Defnyddio Hoffwn i, Gallwn i, Dylwn i (ynghyd â’r personau eraill)
/ Mi faswn i’n hoffi, Mi faswn i’n medru.
• Dweud ble cafodd e/hi (neu rywun arall) ei eni a’i fagu / ei geni a’i magu
• Siarad am y newyddion gan ddefnyddio goddefol ‘cael’, e.e. Cafodd y dyn ei ladd.
• Defnyddio’r negyddol: presennol, dyfodol, amherffaith, amodol a gorffennol
• Defnyddio’r arddodiaid gyda’r berfenwau priodol a rhedeg yr arddodiaid yn ôl y gofyn,
e.e. edrych arni hi, dweud wrthyn nhw
• Disgrifio pethau, (a threiglo ansoddeiriau)
• Cymharu pethau: mor dal â (y radd gyfartal)
• Cymharu pethau: yn dalach na (y radd gymharol)
• Cymharu pethau: y talaf (y radd eithaf)
• Mynegi barn gan ddefnyddio cymal gyda ‘bod’: Dw i’n meddwl bod...
• Pwysleisio mewn brawddegau, e.e. Yn y dre mae hi’n byw; Dw i’n meddwl mai / taw …
• Siarad am hoff / cas bethau.
O fewn y lle gwaith, dylai’r ymgeisydd fedru cyflawni tasgau cyfarwydd ar lafar ac yn
ysgrifenedig, deall gofynion rhagweladwy ac ymateb yn briodol.
Gwrando
Siarad
• Siarad am bwnc pob dydd ac ateb cwestiynau syml amdano, e.e. teulu, gwyliau,
diddordebau, rhaglenni teledu.
• Ymateb i gwestiynau’n gofyn am wybodaeth ffeithiol neu bersonol am bynciau pob dydd,
e.e. am hoff fwydydd, arferion pob dydd.
• Ymateb i gwestiynau caeëdig: Ydw, Oes (gw. y rhestr gyflawn yn y manylion am y prawf
llafar).
Darllen
Ysgrifennu
Er mwyn rhoi syniad clir i diwtoriaid o ddyfnder yr iaith a ddisgwylir, mae Bwletin Arholiadau
Cymraeg i Oedolion 2003 ar gael, yn cynnwys enghreifftiau o waith ymgeiswyr a thapiau
enghreifftiol. Dylid cysylltu â CBAC am gopi o hwn.
7
1. Gwrando [80 marc - 20%]
Mae’r rhan hon yn mesur sgiliau deall Cymraeg llafar yr ymgeisydd. Rhaid ateb y cwestiynau
yn Gymraeg, lle bydd angen geiriau a defnyddio rhifau / ffigurau lle bo’n briodol. Mae’r
pwyslais ar feithrin yr arfer o ddethol gwybodaeth o destun neu sgwrs, heb ddeall o
reidrwydd bob un gair ohono. Mae tair rhan i’r prawf:
Yn y rhan gyntaf, bydd yr ymgeisydd yn clywed tair neges ffôn yn rhoi gwybodaeth ffeithiol.
Rhaid i’r ymgeisydd ddethol yr wybodaeth o’r darnau er mwyn llenwi grid gwybodaeth. Nid
oes rhaid ysgrifennu brawddegau yma ac nid asesir cywirdeb sillafu. Lle bo gofyn am bris,
amser neu rif, dylid ysgrifennu ffigwr / rhif.
Caiff glywed y negeseuon dair gwaith, fel a ganlyn:
Y gwrandawiad cyntaf (ni chaniateir i ymgeiswyr weld y grid yn ystod y cyfnod hwn, ond
caniateir ysgrifennu ar bapur sgrap).
1 funud i ysgrifennu
Yr ail wrandawiad (caniateir ysgrifennu a cheir bwlch o 30 eiliad rhwng pob neges)
Y trydydd gwrandawiad
2 funud i ysgrifennu
Bydd gofyn i’r ymgeisydd gael hyd i wybodaeth benodol, e.e. oddi wrth bwy mae’r neges,
beth yw natur y broblem, manylion pwysig eraill.
Yn ail ran y prawf, bydd yr ymgeisydd yn clywed bwletin tywydd, yn rhoi rhagolygon y
tywydd ar gyfer y dyfodol. Bydd map o Gymru ar y papur a rhaid i’r ymgeisydd nodi’r
mathau priodol o dywydd a geir yn y lleoedd priodol, ar sail yr wybodaeth yn y bwletin.
Rhaid i’r ymgeiswyr ysgrifennu geiriau allan o restr benodol sy’n cyfateb orau i’r tywydd a
ddisgrifir. Awgrymir y dylai ymgeiswyr ymgyfarwyddo â geirfa / ymadroddion bwletinau
tywydd cyffredin er mwyn ymarfer ar gyfer y prawf hwn.
Bydd yr ymgeisydd yn gwrando ar ddeialog yn trafod pwnc cyffredin, rhwng dau berson.
Bydd rhaid dangos dealltwriaeth o’r sgwrs drwy lenwi ffurflen yn seiliedig ar yr wybodaeth
sydd ynddi. Rhennir y ddeialog a bydd y gwrandawiadau’n dilyn yr un drefn â rhannau cyntaf
y prawf gyda 30 eiliad rhwng yr adrannau yn ystod yr ail wrandawiad.
Bydd prawf cyfan yn para tua 40 munud, yn dibynnu ar hyd eitemau gwahanol.
8
2. Siarad [200 marc - 50%]
Bydd pob ymgeisydd yn cael ei gyfweld yn unigol gan gyfwelydd llafar a bydd pob rhan o’r
prawf yn cael ei recordio a’i anfon i’w asesu’n allanol. Ni ddylai’r prawf cyfan bara mwy na
thua 10 munud. Mae tair rhan i’r Prawf Llafar:
Disgwylir i’r ymgeisydd siarad yn Gymraeg am 3 munud am bwnc cyfarwydd allan o restr
benodol. Rhaid dewis un testun allan o dri a chaniateir 15 munud i baratoi cyn y prawf ei
hun (ni chaniateir geiriadur yn y cyfnod hwn, ond caniateir i ymgeiswyr sgwrsio’n gyffredinol
â’r ymgeiswyr eraill ac â’r Trefnydd. Ni chaniateir i ymgeiswyr ymarfer y cyflwyniad gyda’i
gilydd yn y cyfnod hwn). Bydd y cyfwelydd yn gofyn cwestiynau syml i’r ymgeisydd ar y
testun hwnnw hefyd (o fewn y 3 munud). Dewisir 3 thestun o’r banc isod:
• Diddordebau / hobïau
• Y tþ
• Yr ardal
• Bywyd cymdeithasol
• Siopa
• Rhaglenni teledu / ffilmiau
• Bwyta allan
• Chwaraeon
• Gwyliau
• Gwaith
• Dysgu Cymraeg
• Y teulu
Nid oes disgwyl i’r ymgeisydd siarad mewn dyfnder ar y testun a ddewisir. Ni chaniateir i’r
ymgeisydd fynd â sgript gyflawn i’r Prawf Llafar, ond caniateir nodiadau cryno - ni ddylai fod
yn darllen y cyflwyniad. Bydd y cyfwelydd yn gofyn 3 chwestiwn syml am y pwnc a
ddewiswyd gan yr ymgeisydd.
Nod y rhan hon yw profi gallu’r ymgeisydd i ateb cwestiynau syml yn Gymraeg yn fyrfyfyr ar
bynciau cyfarwydd / rhagweladwy er mwyn cael hyd i wybodaeth ffeithiol neu bersonol syml.
Gofynnir 10 cwestiwn allan o’r rhestr isod a disgwylir i’r ymgeisydd ymateb mewn
brawddegau llawn. Rhoddir hyd at 10 marc am bob ateb. Gellir amrywio’r cyfnodau amser
a danlinellir, e.e. dros y penwythnos. Ni fydd y cyfwelydd yn dilyn yr un drefn â’r rhestr hon
o reidrwydd:
1. Ble cawsoch chi’ch geni a’ch magu? Lle gaethoch chi’ch geni a’ch magu?
2. Disgrifiwch yr ardal lle cawsoch chi Disgrifiwch yr ardal lle gaethoch chi eich
eich geni neu’ch magu. geni neu’ch magu.
3. Ble hoffech chi fyw? Pam? Lle fasech chi’n hoffi byw? Pam?
4. Disgrifiwch yr ardal lle dych chi’n Disgrifiwch yr ardal lle dach
byw nawr. chi’n byw rwan.
9
5. Dwedwch rywbeth am raglen deledu Dudwch rywbeth am raglen deledu
dda / ffilm dda dych chi wedi’i gweld dda / ffilm dda dach chi wedi’i gweld
yn ddiweddar. yn ddiweddar.
6. Beth yw’ch hoff _____ chi? Pam? Be’ ydy’ch hoff ___ chi? Pam?
(e.e. ffilm / raglen / le / lyfr) (e.e. ffilm / raglen / le / lyfr)
7. Pwy yw’ch hoff _____ chi? Pam? Pwy ydy’ch hoff ___ chi? Pam?
(e.e. actor / actores / ganwr / gantores) (e.e. actor / actores / ganwr / gantores)
8. Ble dych chi’n hoffi bwyta allan / siopa? Lle dach chi’n hoffi bwyta allan / siopa?
Pam dych chi’n hoffi mynd yno? Pam dach chi’n hoffi mynd yno?
9. Pwy yw’r person hena / ifanca yn eich Pwy ydy’r person hyna / fenga yn
teulu chi? Dwedwch rywbeth amdano / eich teulu chi? Dudwch rywbeth
amdani. amdano / amdani.
10. Beth fyddech / fasech chi’n ei wneud Be’ fasech chi’n wneud tasech chi’n
tasech chi’n ennill y loteri? ennill y loteri?
11. Ble hoffech chi fynd ar eich gwyliau? Lle basech chi’n hoffi mynd ar eich
Pam? gwyliau? Pam?
12. Pa un oedd y gwyliau gorau / gwaetha Pa un oedd y gwyliau gorau /
gawsoch chi erioed? gwaetha gaethoch chi erioed?
13. Beth dych chi ddim yn hoffi ei wneud? Be’ dach chi ddim yn hoffi ei wneud?
14. Beth ddylech chi wneud Be’ ddylech chi wneud
dros y penwythnos? dros y penwythnos?
15. Beth dych chi’n feddwl o’ch dosbarth Be’ dach chi’n feddwl o’ch dosbarth
Cymraeg / o’ch llyfr cwrs Cymraeg? Cymraeg / o’ch llyfr cwrs Cymraeg?
16. Beth yw’r peth gorau / y peth Be’ ydy’r peth gorau / y peth
mwya anodd am ddysgu Cymraeg? mwya anodd am ddysgu Cymraeg?
17. Beth dych chi’n feddwl o’r bobl sy’n Be’ dach chi’n feddwl o’r bobl sy’n
byw drws nesa i chi? byw drws nesa i chi?
18. Beth fyddwch chi’n wneud heno? Be’ fyddwch chi’n wneud heno?
19. Beth o’ch chi’n hoffi ei wneud pan Be’ oeddech chi’n hoffi ei wneud
o’ch chi yn yr ysgol? pan oeddech chi yn yr ysgol?
20. Dwedwch rywbeth am y tþ lle dych Dudwch rywbeth am y tþ lle dach
chi’n byw nawr. chi’n byw rwan.
Bydd yr arholwr yn gofyn 8 o gwestiynau caeëdig syml a rhaid i’r ymgeisydd ymateb yn
gadarnhaol - nid oes angen brawddeg ac ni chaniateir ‘Si ðr o fod’ fel ateb. Ceir 2 osodiad y
mae’n rhaid i’r ymgeisydd ymateb iddynt hefyd. Dewisir y cwestiynau allan o’r rhestr isod
(bydd rhestr benodol gan y cyfwelydd, yn cynnwys amrywiadau ar yr elfennau a danlinellir):
• Dych chi’n gweithio ar hyn o bryd? Dach chi’n gweithio ar hyn o bryd?
• Aethoch chi adre neithiwr? Wnaethoch chi fynd adra neithiwr?
• Oedd hi’n braf ddoe? Oedd hi’n braf ddoe?
• Oes car gyda chi? ’Sgynnoch chi gar?
• Fyddech / Fasech chi’n prynu car newydd, Fasech chi’n prynu car newydd,
tasech chi’n gallu? tasech chi’n gallu?
• Athro/Athrawes dych chi? Athro / Athrawes dach chi?
• Fyddwch chi’n bwyta swper yn y tþ heno? Fyddwch chi’n bwyta swper yn y
tþ heno?
• Ga’i ofyn cwestiwn i chi? Ga’i ofyn cwestiwn i chi?
• Mae hi’n wyntog heddiw. Mae hi’n wyntog heddiw.
• Mae llawer o bobl yn y dosbarth. Mae ’na lawer o bobl yn y dosbarth.
10
Ni ddisgwylir i’r ymgeisydd estyn yr atebion o gwbl. Nod y rhan hon yw profi gallu’r
ymgeisydd i ymateb yn reddfol i gwestiynau caeëdig, drwy ddefnyddio’r ymatebion
cadarnhaol.
11
3. Darllen [60 marc - 15%]
Nod y rhan hon yw meithrin a mesur sgiliau llythrennedd goddefol yr ymgeisydd a’i
ddealltwriaeth o strwythurau’r Gymraeg. Rhaid ateb y cwestiynau yn Gymraeg, lle bydd
angen geiriau. Mae tair rhan i’r prawf hwn:
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd ddarllen erthygl syml ar bwnc cyffredin yn ymwneud â bywyd pob
dydd ac ateb 5 cwestiwn yn seiliedig arni. Nid oes disgwyl i’r ymgeisydd ysgrifennu
brawddegau a bydd y cwestiynau fel arfer yn gofyn am atebion cryno neu ffigurau. Ni
chosbir yr ymgeisydd am unrhyw wallau sillafu neu ramadeg yn y rhan hon.
Rhaid i’r ymgeisydd ddangos dealltwriaeth o gyfres o hysbysiadau, e.e. o bapur bro, a dangos
dealltwriaeth ohonynt drwy lenwi grid gwybodaeth. Nid oes disgwyl i’r ymgeisydd
ysgrifennu brawddegau a bydd y cwestiynau fel arfer yn gofyn am atebion cryno neu ffigurau.
Ni chosbir yr ymgeisydd am unrhyw wallau sillafu neu wallau gramadeg yn y rhan hon.
Rhaid i’r ymgeisydd lenwi’r bylchau mewn cyfres o frawddegau digyswllt. Bydd y
brawddegau’n profi gafael yr ymgeisydd ar batrymau iaith ac ymadroddion a fydd wedi codi
yn ystod y cwrs. Rhoddir sbardun mewn cromfachau lle bo hynny’n briodol. Bydd yr
ymgeisydd yn cael 1 marc am roi’r gair priodol ond heb sillafu neu dreiglo’n gywir.
Bydd y prawf cyfan yn para am 40 munud ac ni chaniateir i’r ymgeisydd ddefnyddio geiriadur
wrth sefyll y prawf.
12
4. Ysgrifennu [60 marc - 15%]
Nod y rhan hon yw profi gallu’r ymgeisydd i ysgrifennu Cymraeg i gyfleu gwybodaeth ffeithiol
neu bersonol ar ffurf nodyn / neges ac ysgrifennu darn yn y gorffennol.
Rhaid i’r ymgeisydd ysgrifennu nodyn neu neges er mwyn cyflawni tasg arbennig. Rhoddir
dewis o destunau neu dasgau a’r ymgeisydd i ddewis un allan o bedwar. Rhaid i’r ymgeisydd
ysgrifennu tua 50 o eiriau i gyd.
Yn y rhan hon, disgwylir i’r ymgeisydd ysgrifennu dyddiadur neu gofnod person cyntaf o
ddigwyddiadau yn y gorffennol (nid oes rhaid mynegi ffeithiau go iawn). Rhoddir dewis o
destunau neu dasgau a’r ymgeisydd i ddewis un allan o bedwar. Rhaid i’r ymgeisydd
ysgrifennu tua 75 o eiriau i gyd.
Rhoddir 40 munud i gwblhau’r prawf hwn ac ni chaniateir i’r ymgeisydd ddefnyddio geiriadur
yn ystod y prawf.
13
Asesu, dyfarnu a chymedroli
Cynhelir yr arholiad hwn a’r asesu yn unol â gofynion Cod Ymarfer y Corff Rheoleiddio.
Cynhelir y profion i gyd ar yr un diwrnod a dylid cysylltu â CBAC er mwyn cael gwybod am
ddyddiad cynnal yr arholiad nesaf. Ni chaniateir defnyddio geiriaduron na rhestri geirfa yn
ystod y profion.
Anfonir holl waith yr ymgeiswyr i CBAC i’w farcio gan dîm o farcwyr allanol. Bydd y Prif
Arholwr yn marcio sampl o bapurau / tapiau’r marcwyr eraill er mwyn sicrhau cysondeb a
safon (fel arfer tua 10% o’r gwaith i gyd).
Cynhelir cyfarfod dyfarnu ymhen mis wedi’r arholiad ei hun ac anfonir llythyr at bob
ymgeisydd ymhen chwe wythnos wedi sefyll yr arholiad fel arfer, yn nodi’r canlyniad a
gafwyd ym mhob papur a’r cyfanswm allan o 400. Rhaid i ymgeiswyr sefyll pob rhan o’r
arholiad hwn er mwyn ennill cymhwyster.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn tystysgrif swyddogol fel arfer tua dau fis wedi
dyddiad sefyll yr arholiad ei hun yn nodi’r radd a ddyfarnwyd.
14
Disgrifiadau Graddau
Mae’r disgrifiadau graddau isod yn crynhoi’r lefelau cyrhaeddiad o fewn y cymhwyster, sef:
• A, B, C (Llwyddo)
• D, Diddosbarth
Maent yn arwydd cyffredinol o’r lefelau cyrhaeddiad hynny y bydd ymgeiswyr wedi eu
harddangos. Gall diffygion mewn rhai agweddau o’r arholiad gael eu cydbwyso gan
ragoriaethau mewn agweddau eraill. Bydd y radd a ddyfernir yn dibynnu ar sut mae’r
ymgeisydd yn cwrdd â’r meini prawf asesu a nodir yn y Cynlluniau Marcio.
Gradd A
Bydd ymgeisydd sydd yn cyrraedd gradd A o fewn y cymhwyster hwn yn gallu siarad yn
hyderus ac yn gywir am bynciau pob dydd neu sefyllfaoedd cyfarwydd. Gall ddeall
cwestiynau’n gofyn am wybodaeth ffeithiol neu bersonol am y pynciau hynny ac ymateb
iddynt yn rhwydd. Disgwylir bod ymgeisydd gradd A yn deall sgyrsiau syml, negeseuon ffôn
yn ymwneud â phynciau cyfarwydd a bwletinau tywydd yn ddidrafferth. Bydd yn gallu deall
erthyglau syml, hysbysiadau’n ymwneud â phynciau rhagweladwy. Hefyd, bydd yn gallu
ysgrifennu neges neu nodyn yn ymwneud â digwyddiadau cyffredin neu gyfarwydd ac
ysgrifennu cofnod syml o brofiadau yn y gorffennol yn hyderus ac yn gywir.
Gradd C
Bydd ymgeisydd sydd yn cyrraedd gradd C o fewn y cymhwyster hwn yn foddhaol heb fod
gwallau’n ymyrryd gormod am bynciau pob dydd neu sefyllfaoedd cyfarwydd. Gall ddeall rhai
cwestiynau’n gofyn am wybodaeth ffeithiol neu bersonol am y pynciau hynny ac ymateb
iddynt yn briodol fel arfer. Disgwylir bod ymgeisydd gradd C yn deall rhan helaeth o
sgyrsiau syml, negeseuon ffôn yn ymwneud â phynciau cyfarwydd a bwletinau tywydd. Bydd
yn gallu deall y rhan fwyaf o gynnwys erthyglau syml, hysbysiadau’n ymwneud â phynciau
rhagweladwy. Hefyd, bydd yn gallu ysgrifennu neges neu nodyn yn ymwneud â digwyddiadau
cyffredin neu gyfarwydd ac ysgrifennu cofnod syml o brofiadau yn y gorffennol yn foddhaol
ar y cyfan.
Gradd D
Bydd ymgeisydd sydd yn cyrraedd gradd D o fewn y cymhwyster hwn yn siarad am bynciau
cyfarwydd mewn ffordd elfennol. Gall ddeall rhai cwestiynau’n gofyn am wybodaeth ffeithiol
neu bersonol. Disgwylir bod ymgeisydd gradd D yn deall ychydig o gynnwys sgyrsiau syml,
negeseuon ffôn yn ymwneud â phynciau cyfarwydd a bwletinau tywydd. Bydd yn deall
ychydig o gynnwys erthyglau syml, hysbysiadau’n ymwneud â phynciau rhagweladwy. Hefyd,
bydd yn ysgrifennu neges neu nodyn yn ymwneud â digwyddiadau cyffredin neu gyfarwydd ac
ysgrifennu cofnod syml o brofiadau yn y gorffennol mewn ffordd elfennol.
15
Sgiliau Allweddol
Y Sgiliau Allweddol yw’r sgiliau sylfaenol sy’n gyffredin i bob cymhwyster. Er nad oes disgwyl
i gymhwyster ar Lefel Sylfaen ddarparu tystiolaeth o gyrhaeddiad ymgeiswyr yn y Sgiliau
Allweddol, gall y cyfnod addysgu sy’n arwain at Defnyddio’r Gymraeg: Sylfaen ddarparu cyfleon
i ymgeiswyr ragbaratoi ar gyfer y Sgiliau Allweddol.
Cyfeirir yn benodol at adran Cyfathrebu Lefel 1 o fewn y fanyleb ar Sgiliau Allweddol a hefyd
at Sgiliau Allweddol ehangach sy’n gysylltiedig â gweithio gydag eraill, gwella’ch perfformiad
eich hun a datrys problemau. Nodir gofynion Cyfathrebu Lefel 1 Sgiliau Allweddol isod:
Cyfathrebu Lefel 1
(C1.2) Darllen a chasglu gwybodaeth o ddwy ddogfen o fath gwahanol sy’n ymwneud â
phynciau syml, gan gynnwys o leiaf un ddelwedd.
• darllen deunydd perthnasol.
• adnabod yn gywir y prif bwyntiau a’r syniadau a geir yn y deunydd; a
• defnyddio’r wybodaeth fel ei bod yn addas i’r pwrpas.
(C1.3) Ysgrifennu dwy ddogfen o fath gwahanol ar bynciau syml. Rhaid cynnwys o
leiaf un ddelwedd yn un o’r dogfennau.
• cyflwyno gwybodaeth berthnasol mewn ffurf sy’n addas i’r pwrpas;
• sicrhau bod y testun yn ddarllenadwy; a
• sicrhau bod y sillafu, yr atalnodi a’r ramadeg yn gywir fel bod yr ystyr yn glir.
Ceir cyfleon i ragbaratoi ar gyfer Sgiliau Allweddol eraill, e.e. Technoleg Gwybodaeth, yn y
dosbarth neu wrth gyflwyno gwaith cartref.
Ceir enghreifftiau o hyn, ac enghreifftiau o’r cyfleon i ddatblygu’r Sgiliau Allweddol ehangach
(‘gweithio gydag eraill’ a ‘gwella’ch perfformiad eich hun’ yn unig) yn y llyfrau cwrs a
gymeradwyir ar dud. 5, Para. 2.1, e.e. gwaith pâr yn Dosbarth Nos 21 - 38 t.149; gwaith
gr ðp yn Pecyn Paratoi Defnyddio’r Gymraeg: Sylfaen t. 3.
Gweler yr Atodiad ar y ddalen nesaf am ganllawiau ynglþ n â sut i ddefnyddio gwaith sy’n
arwain at Defnyddio’r Gymraeg: Sylfaen i helpu i baratoi ymgeiswyr a fydd yn casglu
tystiolaeth ar gyfer y Sgiliau Allweddol. Ceir manylion pellach yn y fanyleb Sgiliau Allweddol.
16
Defnyddio’r Gymraeg: Sylfaen
Atodiad 1: Nid yw’r enghreifftiau hyn ynddynt eu hunain yn gyfleon i ymgeiswyr gyflwyno
tystiolaeth ar gyfer y cymhwyster Sgiliau Allweddol. Fodd bynnag, gall fod
cyfleon i ymgeiswyr ragbaratoi ar gyfer y Sgiliau Allweddol.
Pan fydd ymgeiswyr yn: bydd cyfle iddynt ragbaratoi ar gyfer y sgiliau canlynol:
cymryd rhan yn y Prawf Llafar Cymryd rhan mewn trafodaeth un-i-un a thrafodaeth
gr ðp .
cymryd rhan yn y Prawf Gwrando a Deall
y darparu gwybodaeth sy’n berthnasol i bwnc a
phwrpas y drafodaeth;
sgwrsio a thrafod mewn parau a grwpiau y siarad yn glir mewn ffordd sy’n addas i’r sefyllfa;
yn ystod y cyrsiau
y gwrando ac ymateb yn briodol i’r hyn y mae pobl
eraill yn ei ddweud.
cymryd rhan yn y Prawf Darllen Darllen a chasglu gwybodaeth o ddwy ddogfen o fath
gwahanol sy’n ymwneud â phynciau syml, gan gynnwys
neu’n paratoi ar ei gyfer yn ystod y cwrs o leiaf un ddelwedd.
cymryd rhan yn y Prawf Ysgrifennu neu’n paratoi ar ei Ysgrifennu dwy ddogfen o fath gwahanol ar bynciau
gyfer yn ystod y cwrs syml. Rhaid cynnwys o leiaf un ddelwedd yn y
dogfennau.
17
Crynodeb Asesu
Prawf Gwrando a Prawf Llafar 50% Prawf Darllen a Deall Prawf Ysgrifennu 15%
Deall 20% a Llenwi Bylchau 15%
a. Cyflwyno pwnc 20% a. Nodyn / neges 6%
a. Negeseuon ffôn 8% b. Sgwrs strwythuredig a. Erthygl 5% b. Darn yn y gorffennol
b. Bwletin tywydd 4% 25% b. Hysbysiadau 5% 9%
c. Deialog 8% c. Ymatebion caeëdig 5% c. Llenwi bylchau 5%
18
CYNLLUNIAU ASESU
Bydd yr ymgeisydd yn llenwi grid gwybodaeth ar sail cyfres o negeseuon ffôn a glywir ar dâp.
Rhaid llenwi’r grid yn seiliedig ar yr hyn a glywir. Bydd y grid yn gofyn am wybodaeth
ffeithiol yn seiliedig ar y 3 neges, a bydd y marc yn amrywio yn ôl natur y cwestiwn (gw. y
papurau enghreifftiol).
Yma, bydd yr ymgeisydd yn clywed bwletin tywydd yn rhoi rhagolygon y tywydd. Bydd map
o Gymru ar y papur a rhaid i’r ymgeisydd nodi’r mathau priodol o dywydd a geir yn y
lleoedd priodol, ar sail yr wybodaeth yn y bwletin. Rhaid i’r ymgeiswyr ysgrifennu geiriau
allan o restr benodol sy’n cyfateb orau i’r tywydd a ddisgrifir.
• Rhoddir 2 farc am bob ateb cywir ac mae cyfanswm o 8 gair i’w hysgrifennu.
• Ni chosbir ymgeiswyr am gamsillafu yn y rhan hon, nac am roi gair sydd wedi ei dreiglo.
• Os bydd ymgeisydd yn rhoi gair nad yw ar y rhestr, ond sydd yn cyfleu ystyr tebyg,
rhoddir 1 marc, e.e. ysgrifennu gwlyb yn lle glaw.
• Lle bydd ymgeisydd yn rhoi dau air mewn bwlch lle bo angen un, rhoddir 1 marc yn unig
os bydd un ohonynt yn iawn.
• Lle bydd ymgeisydd yn rhoi un gair mewn bwlch lle bo angen dau, rhoddir 2 farc yn unig,
os bydd y gair hwnnw’n iawn.
19
2. Prawf Llafar [200 marc - 50%]
Rhoddir marc ar gyfer: i. cywirdeb; ii. ystod yr amserau a chystrawennau; iii. llif y cyflwyno;
iv. ymateb yr ymgeisydd i gwestiynau; v. yr argraff gyffredinol a rydd yr ymgeisydd.
MEINI PRAWF
Cywirdeb [5]
Ystod [5]
Llif [5]
20
Argraff [5]
Rhoddir marc allan o 5 am bob ymateb, yn unol â’r disgrifiadau a geir isod. Bydd y marc
hwn yn cael ei ddyblu i roi marc allan o 10, a chyfanswm allan o 100.
[5 marc]
Mae ymateb yr ymgeisydd yn gwbl gywir, mewn brawddeg lawn ac yn ynganu’n ardderchog.
Mae cynnwys yr ymateb yn ardderchog ac yn ddiddorol.
[4 marc]
[3 marc]
Mae ymateb yr ymgeisydd bron yn gywir (un gwall bychan e.e. treiglo, terfyniad) a’r ynganu’n
eglur. Mae cynnwys yr ymateb yn foddhaol.
[2 farc]
Mae ymateb yr ymgeisydd yn foddhaol i raddau ond yn cynnwys gwall sylfaenol (e.e.
cystrawen, geirfa anghywir), a’r ynganu’n ddealladwy. Mae cynnwys yr ymateb yn briodol i
raddau.
[1 marc]
Mae ymateb yr ymgeisydd yn briodol i raddau’n unig ac yn cynnwys gwall neu wallau
sylfaenol iawn, (e.e. es i mynd), a’r ynganu’n ddealladwy ar y cyfan. Mae cynnwys yr ymateb
yn elfennol.
Disgwylir i’r ymgeisydd ymateb i 8 cwestiwn caeëdig a dau osodiad gan roi’r ateb cadarnhaol
priodol. Nid asesir ymatebion llawn ond yn hytrach ffurf yr ymatebion a roddir. Mae
cyfanswm o 10 cwestiwn / gosodiad a rhoddir 2 farc i bob un sy’n gywir.
21
2. Darllen a Deall, a Llenwi Bylchau [60 marc - 15%]
Yn y rhan hon, rhaid i’r ymgeisydd ateb cwestiynau’n seiliedig ar erthygl syml. Ni chosbir
ymgeiswyr am wallau iaith. Dealltwriaeth yr ymgeisydd o’r darnau a’r cwestiynau yn unig a
brofir. Mae 5 cwestiwn fel arfer a rhoddir marciau yn ôl natur yr wybodaeth y gofynnir
amdani (gw. y papurau enghreifftiol).
Yma, disgwylir i’r ymgeisydd ddangos dealltwriaeth o gyfres o hysbysiadau, e.e. mewn papur
bro. Rhaid llenwi grid yn crynhoi’r wybodaeth yn yr hysbysiadau. Ni chosbir ymgeiswyr am
wallau iaith yn y prawf hwn, a dylid defnyddio rhif/ffigwr lle bo gofyn am hynny. Mae’r
marciau’n amrywio yn ôl natur yr wybodaeth y gofynnir amdani (gw. y papurau enghreifftiol).
Rhoddir deg brawddeg ddigyswllt ac ym mhob un ohonynt fwlch i’w lenwi, gan roi sbardun
mewn cromfachau, lle bo hynny’n briodol. Disgwylir i’r ymgeisydd roi un gair yn y bwlch, ac
nid oes amrywiadau ar yr atebion, fel arfer (os gellir rhoi geiriau priodol eraill yn y bwlch,
nodir hynny yn y cynllun marcio penodol i’r papur). Rhoddir 2 farc am bob gair cywir a
nodir. Os bydd 2 elfen i’r bwlch unigol, e.e. lluosi gair a threiglo’n briodol, rhoddir marc am
y naill a’r llall.
22
4. Ysgrifennu [60 marc - 15%]
MEINI PRAWF
Cywirdeb [5]
Ysgrifennu bron yn gwbl gywir (un neu ddau o wallau bach yn unig) [5]
Ysgrifennu’n gywir ar y cyfan, er bod rhai gwallau [4]
Ysgrifennu’n foddhaol o gywir, heb fod y gwallau’n ymyrryd [3]
Ysgrifennu’n gywir ar brydiau ag ambell wall sylfaenol [2]
Ysgrifennu’n gywir weithiau ond â nifer o wallau sylfaenol [1]
Ystod [5]
Geirfa [5]
Argraff [5]
23
Tystysgrif Sylfaen mewn Cymraeg Ail Iaith:
Defnyddio’r Gymraeg
GWRANDO A DEALL
LISTENING COMPREHENSION
tua 40 munud
approximately 40 minutes
Enw’r ymgeisydd:
Candidate’s name:
24
1. Negeseuon Ffôn [32 marc]
Telephone Messages
• Dych chi’n mynd i wrando ar ddarn wedi ei recordio yn cynnwys 3 neges ffôn.
You are going to listen to a recorded text containing 3 telephone messages.
• Yna, byddwch yn clywed y negeseuon unwaith eto. Ond y tro yma cewch chi 30 eiliad
rhwng pob neges i lenwi’r grid.
Then, you will hear the messages once again. But this time you will be allowed 30 seconds
between each message to fill in the grid.
• Does dim rhaid i chi ysgrifennu brawddegau llawn, ond rhaid cynnwys y ffeithiau
perthnasol i gyd.
You do not have to write full sentences, but must include all the relevant facts.
• Fyddwch chi ddim yn colli marciau am wallau iaith/sillafu; dim ond cynnwys yr atebion
fydd yn cael eu hasesu.
You will not lose marks for spelling or language mistakes; only the content of the answers will be
assessed.
Peidiwch â throi i’r dudalen nesaf nes i’r Trefnydd roi caniatâd.
Do not turn to the next page until the Organiser gives permission.
25
Grid gwybodaeth
Information grid
Does dim rhaid i chi ysgrifennu brawddegau, ond rhowch y manylion perthnasol i gyd.
Defnyddiwch rifau, e.e. 4.15, ar gyfer y golofn olaf.
You do not need to write sentences, but give all the relevant details.
Use numbers, e.g. 4.15, for the last column.
Neges 1
Neges 2
Neges 3
26
2. Y Tywydd [16 marc]
The weather
• Dych chi’n mynd i wrando ar ddarn wedi ei recordio o ragolygon y tywydd ar gyfer
heddiw, heno a thros y penwythnos
You are going to listen to a recorded passage of the weather forecast for today, tonight and
over the weekend.
• Byddwch chi’n clywed y bwletin cyfan y tro cyntaf. Yna, cewch droi i’r dudalen nesaf ac
edrych ar y map.
You will hear the whole bulletin the first time. Then, you may turn to the next page and look at
the map.
• Byddwch chi’n cael 2 funud i ysgrifennu cyn gwrando ar y bwletin cyfan eto. Ar ôl 2
funud arall, cewch wrando am y trydydd tro a 2 funud ar y diwedd i wirio eich atebion.
You will have 2 minutes to write before listening to the whole bulletin again. After another 2
minutes, you will may listen for the third time and have 2 minutes at the end to check your
answers.
glaw
gwyntog
braf
oer
twym / cynnes
niwlog
stormus
eira
cymylog
Write one or two words in Welsh in each gap on the map to describe the weather outlined in the
bulletin. Use the words closest in meaning to the weather described. You should write a total of 8
words from the above list. Perhaps you will need to use some words more than once, e.g.
Heno: oer
Peidiwch â throi i’r dudalen nesaf nes i’r trefnydd roi caniatâd.
Do not turn to the next page until the organiser gives permission.
27
Dewiswch 8 o’r geiriau isod. Efallai y bydd angen i chi ddefnyddio rhai geiriau
fwy nag unwaith.
Choose 8 of the words below. Perhaps you will have to use some words more than once.
glaw
gwyntog
braf
oer
poeth
niwlog
stormus
eira
cymylog
Nifer y geiriau
Number of words
Heddiw: [2]
Heno: [1]
Heddiw: [1]
Heno: [1]
28
3. Deialog [32 marc]
• Yna, byddwch yn clywed y ddeialog unwaith eto. Ond y tro yma cewch chi 30 eiliad
rhwng pob darn i lenwi’r ffurflen.
Then, you will hear the dialogue once again. But this time you will have 30 seconds between
each part to fill in the form.
• Fyddwch chi ddim yn colli marciau am wallau iaith/sillafu; dim ond cynnwys yr atebion
fydd yn cael eu hasesu.
You will not lose marks for spelling or language mistakes; only the content of the answers will be
assessed.
Peidiwch â throi i’r dudalen nesaf nes i’r Trefnydd roi caniatâd.
Do not turn to the next page until the Organiser gives permission.
29
3. Deialog - y ffurflen
Dialogue - the form
Rhestr Cyfarfodydd
List of Meetings
Pa gwmni? [2]
***
Ystafell: [4]
***
30
Sgript Prawf 1 – Negeseuon Ffôn – i diwtoriaid / trefnwyr yn unig
(Fersiwn y De)
Helo! Dafydd sy ’ma. Dw i’n ffonio i ddweud y bydda i’n hwyr. Dw i yn y gwasanaethau ar yr
M6. Mae’r car wedi torri i lawr eto. Dylwn i fod yn ôl erbyn hanner awr wedi saith heno os
daw’r RAC.
Shw mae! Eleri sy’n siarad. Dw i’n ffonio o tu ôl i Tesco yn y dre. Yn anffodus, dw i wedi
colli’r bws pedwar o’r gloch. Bydda i ‘nôl cyn pump, gobeithio. Efallai y galli di ddechrau
gwneud y te. Gwela i di nes ymlaen.
Helo! Y bòs sy ’ma. Dw i yn y cyfarfod yn y ffatri newydd. Dych chi ddim yn mynd i gredu
hyn ond dw i wedi anghofio’r papurau pwysig. Bydda i ’nôl i’r swyddfa i’w cael nhw mewn
deg munud.
Helo! Dafydd sy ’ma. Dw i’n ffonio i ddweud y bydda i’n hwyr. Dw i yn y gwasanaethau ar yr
M6. Mae’r car wedi torri i lawr eto. Dylwn i fod yn ôl erbyn hanner awr wedi saith heno os
daw’r RAC cyn bo hir.
Su’ mae! Eleri sy’n siarad. Dw i’n ffonio o tu ôl i Tesco yn y dre. Yn anffodus, dw i wedi
colli’r bws pedwar o’r gloch. Bydda i ’nôl cyn pump, gobeithio. Ella y medri di ddechrau
gwneud y te. ‘Wela i di nes ymlaen.
Helo! Y bòs sy ’ma. Dw i yn y cyfarfod yn y ffatri newydd. Dach chi ddim yn mynd i gredu
hyn ond dw i wedi anghofio’r papurau pwysig. Bydda i ’nôl i’r swyddfa i’w cael nhw mewn
deg munud.
Dafydd Y gwasanaethau neu Car wedi torri i lawr (Erbyn) 7.30 heno
Neges 1 ar yr M6
Eleri Tu ôl i Tesco neu Wedi colli’r bws o’r (Cyn) 5 o’r gloch
Neges 2 yn y dre dre
31
Sgript Prawf 2 – Y Tywydd – i diwtoriaid / trefnwyr yn unig
(Fersiwn y De/Gogledd)
Atebion:
*****
Croesawydd: A pham dych chi yma i gwrdd â Mr Davies?
Mrs Morgan: Dw i yma i drafod swydd newydd.
Croesawydd: Am faint o’r gloch mae’r cyfarfod?
Mrs Morgan: Am hanner awr wedi dau, dw i’n credu. Ie, ’na fe, hanner awr wedi dau.
Croesawydd: Dych chi’n gwybod ym mha ystafell dych chi i fod i gwrdd â fe?
Mrs Morgan: Ydw. Ystafell cant tri deg saith.
*****
Croesawydd: Am faint byddwch chi yn y cyfarfod?
Mrs Morgan: Tua dwy awr, si ðr o fod. Oes te ar gael?
Croesawydd: Oes, wrth gwrs. Sut dych chi’n hoffi’ch te?
Mrs Morgan: Te cryf gyda dau siwgr os gwelwch chi’n dda a dim llaeth.
Croesawydd: Iawn. Diolch yn fawr. Mae ystafell cant tri deg saith ar y llawr cynta’.
Mrs Morgan: Diolch yn fawr i chi.
32
Sgript Prawf 3 – Deialog – i diwtoriaid / trefnwyr yn unig
(Fersiwn y Gogledd)
*****
Croesawydd: A pham dach chi yma i gyfarfod â Mr Davies?
Mrs Morgan: Dw i yma i drafod swydd newydd.
Croesawydd: Am faint o’r gloch mae’r cyfarfod?
Mrs Morgan: Am hanner awr wedi dau, dw i’n meddwl. Ia, dyna fo, hanner awr wedi
dau.
Croesawydd: Dach chi’n gwybod ym mha ystafell dach chi i fod i gyfarfod â fo?
Mrs Morgan: Ydw. Ystafell cant tri deg saith.
*****
Croesawydd: Am faint byddwch chi yn y cyfarfod?
Mrs Morgan: Tua dwy awr, si ðr o fod. Oes te ar gael?
Croesawydd: Oes, wrth gwrs. Sut dach chi’n hoffi’ch te?
Mrs Morgan: Te cryf efo dau siwgr os gwelwch chi’n dda a dim llefrith.
Croesawydd: Iawn. Diolch yn fawr. Mae ystafell cant tri deg saith ar y llawr cynta’.
Mrs Morgan: Diolch yn fawr i chi.
Atebion:
33
Tystysgrif Sylfaen mewn Cymraeg Ail Iaith:
Defnyddio’r Gymraeg
Y PRAWF LLAFAR
THE ORAL TEST
Taflen yr Ymgeisydd
Candidate’s sheet
Cewch 15 munud i ddewis a meddwl am UN o’r pynciau isod. Bydd disgwyl i chi
gyflwyno’r pwnc ac ateb cwestiynau’r cyfwelydd. Gallwch chi wneud nodiadau cryno a mynd
â nhw i mewn i’r ystafell arholiad, ond peidiwch â darllen sgript. Bydd y rhan hon o’r prawf
yn para am tua 3 munud.
You have 15 minutes to choose and think about ONE of the subjects below. You will be
expected to present the topic and then answer the interviewer’s questions. You can make brief
notes and take them into the examination room, but do not read a script. This part of the test will
last approximately 3 minutes.
Naill ai (either):
a. Gwyliau
neu (or):
b. Siopa
neu:
c. Rhaglenni teledu
Nawr, bydd yr arholwr yn gofyn rhai cwestiynau i chi. Atebwch gan ddefnyddio brawddegau
llawn.
Now the examiner will ask you some questions. Answer using full sentences.
34
Tystysgrif Sylfaen mewn Cymraeg Ail Iaith:
Defnyddio’r Gymraeg
Defnyddio’r Gymraeg: Sylfaen
Y PRAWF LLAFAR
Taflen y Cyfwelydd
1. Cyflwyno Pwnc
Naill ai:
a. Gwyliau
neu:
b. Siopa
neu:
c. Rhaglenni teledu
35
2. Sgwrs Strwythuredig
Dylech ofyn y cwestiynau canlynol i’r ymgeisydd. Defnyddiwch y ffurfiau tafodieithol y bydd
yr ymgeisydd yn gyfarwydd â nhw.
1. Beth fyddwch chi’n wneud heno? Be’ fyddwch chi’n wneud heno?
3. Beth yw’ch hoff ffilm chi? Pam? Be’ ydy’ch hoff ffilm chi? Pam?
4. Ble cawsoch chi’ch geni a’ch magu? Lle gaethoch chi’ch geni a’ch magu?
5. Disgrifiwch yr ardal lle cawsoch chi Disgrifiwch yr ardal lle cawsoch chi eich
eich geni neu’ch magu. geni neu’ch magu.
6. Ble hoffech chi fyw? Pam? Lle fasech chi’n hoffi byw? Pam?
7. Ble dych chi’n hoffi bwyta allan? Lle dach chi’n hoffi bwyta allan?
Pam dych chi’n hoffi mynd yno? Pam dach chi’n hoffi mynd yno?
8. Beth yw’r peth gorau am ddysgu Be’ ydy’r peth gorau am ddysgu
Cymraeg? Cymraeg?
9. Beth o’ch chi’n hoffi ei wneud pan Be’ oeddech chi’n hoffi ei wneud
o’ch chi yn yr ysgol? pan oeddech chi yn yr ysgol?
10. Beth dych chi’n feddwl o’r bobl sy’n Be’ dach chi’n feddwl o’r bobl sy’n
byw drws nesa i chi? byw drws nesa i chi?
36
3. Ymatebion caeëdig
Dylech ofyn y 10 cwestiwn / gosodiad canlynol i’r ymgeisydd. Dylech ofyn i’r ymgeisydd
ymateb yn gadarnhaol bob tro, hynny yw, ateb ‘yes’ ar gyfer pob cwestiwn.
37
Tystysgrif Sylfaen mewn Cymraeg Ail Iaith:
Defnyddio’r Gymraeg
Defnyddio’r Gymraeg: Sylfaen
40 munud
40 minutes
Enw’r ymgeisydd:
Candidate’s name:
Mae fersiwn De a Gogledd Cymru o’r erthygl - rhaid i chi wneud un o’r ddau.
There are South and North Wales versions of the article - you must choose one of the two.
38
1. Erthygl
Article
Darllenwch y darn isod. Yna, atebwch y cwestiynau yn Gymraeg. Does dim rhaid defnyddio
brawddegau ond rhaid cynnwys y manylion perthnasol i gyd. Rhoddir geirfa ar waelod y
tudalen.
Read the passage below. Then answer the questions in Welsh. There is no need to use full
sentences but you must include all the relevant details. Vocabulary is provided at the bottom of the
page.
Mae pawb sy’n gwrando ar Radio Wales yn nabod llais Roy Noble. Y tro yma ‘dyn ni’n edrych
i mewn i’w oergell e ac yn gofyn iddo fe, beth sy yn dy oergell di, Roy?
Mae fy ngholesterol i’n uchel iawn! Dw i ddim yn hoffi bwyta’n iach. Yn yr oergell gartre,
mae dau fath o laeth - llaeth hanner sgim i Elaine, fy ngwraig, a llaeth sgim i fi. Mae e fel d ðr!
Dw i’n rhoi llaeth sgim yn fy nhe a dim siwgr. Ond yna bydda i’n bwyta bisgïen siocled tywyll.
Mae te yn rhy wlyb ar ei ben ei hun!
Dw i’n hoffi wyau - wyau wedi berwi gyda milwyr bara neu wyau wedi sgramblo. Mae salad
ar waelod yr oergell. Dw i ddim yn ffan mawr o salad ond dw i’n hoffi tomatos bach. Maen
nhw’n iachus iawn - medden nhw! Mae ketchup yn iachus iawn hefyd. Ond dw i’n hoffi
ketchup gyda sglodion!
Mae gwendid mawr gyda fi am gaws. Nid caws soffistigedig fel Brie neu Danish Blue ond Caws
Caerffili neu Cheddar.
Mae tipyn bach o gwrw, lager a gwin gwyn yn yr oergell hefyd. Ac mae yna sudd llugaeron
sy’n dda i fenywod - ac i ddynion! Mae Elaine yn trïo gwneud i fi fwyta’n iach! ‘Dyn ni’n cael
cig neu bysgod i swper. Melon i ddechrau - mewn port neu gyda mafon. Dw i’n hoffi mafon
gyda hufen iâ.
Yn yr hen ddyddiau, ro’n i’n dod adre o’r gwaith yn hwyr ac yn eistedd ar y soffa yn fy
mhyjamas yn bwyta pei a phicl Branston. Nawr, dw i’n bwyta iogwrt!”
Geirfa
oergell - fridge
llais - voice
iach - healthy
milwyr - soldiers
gwendid - weakness
llugaeron - cranberries
mafon - raspberries
39
Atebwch y cwestiynau yma: [20 marc]
Answer these questions:
40
Neu:
Or:
1. Fersiwn y Gogledd
North Wales version
Darllenwch y darn isod. Yna, atebwch y cwestiynau yn Gymraeg. Does dim rhaid
defnyddio brawddegau ond rhaid cynnwys y manylion perthnasol i gyd. Rhoddi
geirfa ar waelod y dudalen.
Read the passage below. Then answer the questions in Welsh. There is no need to use full
sentences but you must include all the relevant details. Vocabulary is provided at the bottom of the
page.
Mae pawb sy’n gwrando ar Radio Wales yn nabod llais Roy Noble. Y tro yma dan ni’n edrych
i mewn i’w oergell o ac yn gofyn iddo fo, beth sy yn dy oergell di, Roy?
Mae fy ngholesterol i’n uchel iawn! Dw i ddim yn hoffi bwyta’n iach. Yn yr oergell gartre,
mae dau fath o lefrith - llefrith hanner sgim i Elaine, fy ngwraig, a llefrith sgim i mi. Mae o fel
d ðr!
Dw i’n rhoi llefrith sgim yn fy nhe a dim siwgr. Ond yna bydda i’n bwyta bisgeden siocled
tywyll. Mae te yn rhy wlyb ar ei ben ei hun!
Dw i’n hoffi wyau - wyau wedi berwi efo milwyr bara neu wyau wedi sgramblo. Mae salad ar
waelod yr oergell. Dw i ddim yn ffan mawr o salad ond dw i’n hoffi tomatos bach. Maen
nhw’n iachus iawn - medden nhw! Mae ketchup yn iachus iawn hefyd. Ond dw i’n hoffi
ketchup efo sglodion!
Mae gen i wendid mawr am gaws. Nid caws soffistigedig fel Brie neu Danish Blue ond Caws
Caerffili neu Cheddar.
Mae tipyn bach o gwrw, lager a gwin gwyn yn yr oergell hefyd. Ac mae yna sudd llugaeron
sy’n dda i ferched - ac i ddynion! Mae Elaine yn trïo gwneud i mi fwyta’n iach! Dan ni’n cael
cig neu bysgod i swper. Melon i ddechrau - mewn port neu efo mafon. Dw i’n hoffi mafon
efo hufen iâ.
Yn yr hen ddyddiau, roeddwn i’n dod adre o’r gwaith yn hwyr ac yn eistedd ar y soffa yn fy
mhyjamas yn bwyta pei a phicl Branston. Rwan, dw i’n bwyta iogwrt!
Geirfa
oergell - fridge
llais - voice
iach - healthy
milwyr - soldiers
gwendid - weakness
llugaeron - cranberries
mafon - raspberries
41
Atebwch y cwestiynau yma: [20 marc]
Answer these questions:
42
2. Hysbysiadau [20 marc]
Notices
Read the notices from a local paper below. Then, fill in the grids overleaf in Welsh. You do not need
to use full sentences but you must include all the relevant details. Vocabulary is provided at the
bottom of the page.
Hysbysiad 1
Wnewch chi roi dwy awr o’ch amser ar ddydd Mawrth i fynd
â chinio poeth i hen bobl yr ardal? Mae’r Cyngor yn rhoi
costau teithio yn unig. Os oes diddordeb, dewch i swyddfa’r
Cyngor cyn diwedd y mis a gofynnwch am John Evans.
Hysbysiad 2
Hysbysiad 3
Hysbysiad 4
Mae dillad babi o bob lliw ar gael drwy ffonio 02920 265110.
Cyflwr fel newydd. Popeth ar gael am ugain punt, ond bydd
angen i chi ddod i’w casglu. Ffoniwch er mwyn trefnu amser
cyfleus unrhyw bryd ar ddydd Sul.
Geirfa
gwasanaeth - service
yr henoed - the aged
chwilio am - to look for
dosbarthu - to distribute
cyflwr - condition
casglu - to collect
cyfleus - convenient
43
Gridiau Gwybodaeth
Information Grids
Hysbysiad 1
Hysbysiad 2
Hysbysiad 3
Hysbysiad 4
44
3. Llenwch y bylchau yn y brawddegau yma: [20 marc]
Fill in the gaps in these sentences:
45
Atebion - tiwtoriaid a threfnwyr yn unig
1. Erthygl
1. Radio Wales
2. Colestrol uchel
3. llaeth sgim [2 farc - 1 marc am ‘laeth’ yn unig] a dim siwgr [ 2 farc]
4. caws [1 marc yn unig], caws Caerffili [2 farc] neu cheddar [2 farc]
5. Roedd e’n / Roedd o’n eistedd yn ei byjamas yn bwyta pei a phicl Branston
[2 farc am ‘eistedd ar y soffa’]
2. Hysbysiadau
Hysbysiad 1
Mynd â chinio Dydd Mawrth Dim ond costau Cyn diwedd y mis
poeth i hen bobl yr teithio
ardal
Hysbysiad 2
Dosbarthu Dydd Sadwrn £5 yr awr / £15 20 Medi
papurau
[1 am ‘papurau’]
Hysbysiad 3
C ðn labrador £40 yr un fod yn lleol / fod yn rhwng 7 - 9 y nos
/ 6 ci / £240 byw yn yr ardal
Hysbysiad 4
dillad babi £20 ddod i’w casglu unrhyw bryd ar
/ dillad / casglu nhw ddydd Sul
/ dydd Sul
46
3. Llenwi bylchau
47
Tystysgrif Sylfaen mewn Cymraeg Ail Iaith:
Defnyddio’r Gymraeg
YSGRIFENNU
WRITING
40 munud
40 minutes
Enw’r ymgeisydd:
Candidate’s name:
48
1. Ysgrifennu Nodyn / Neges [24 marc]
Writing a Note / Message
(i) Nodyn at ffrind yn dweud eich bod chi ddim yn gallu dod i’r parti nos yfory. Rhowch
reswm a ble a phryd y byddwch chi’n cwrdd nesa’.
A note to a friend saying that you can’t come to the party tomorrow night. Give a reason
and when and where you will meet next.
neu (or)
(ii) Neges at eich bòs yn dweud pam dych chi ddim yn gallu dod i’r cyfarfod yfory.
A message to your boss saying why you can’t get to the meeting tomorrow.
neu
(iii) Nodyn at eich partner yn dweud eich bod chi’n mynd i fod yn hwyr heno, y rheswm
a phryd y byddwch chi’n ôl.
A note to your partner saying that you will be late tonight, the reason and when you will be
back.
neu
(iv) Neges at eich plant yn dweud eich bod chi’n mynd i fod yn hwyr ac sy’n dweud
wrthyn nhw beth i’w wneud a beth i beidio â’i wneud cyn i chi gyrraedd adre.
A message to your children saying that you are going to be late and which tells them what
to do and what not to do before you get home.
49
Ysgrifennwch eich nodyn/neges isod. Tua 50 o eiriau
Write your note / message below. About 50 words.
50
2. Darn yn yr amser gorffennol [36 marc]
A piece in the past tense
Ysgrifennwch ddarn yn yr amser gorffennol (does dim rhaid i bob brawddeg fod yn y
gorffennol), ar un o’r testunau yma, (tua 75 o eiriau):
Write a piece in the past tense (not every sentence needs to be in the past) on one of these topics,
(about 75 words):
neu (or)
neu
neu
51
Ysgrifennwch eich darn isod. Tua 75 o eiriau.
Write your piece below. About 75 words.
52